Ffeil-O-Ffaith: Gwener

English




Ffeil-O-Ffaith y Planedau
Mercher Gwener Daear Mawrth Iau Sadwrn Wranws Neifion

Gwener

Dyma'r ail blaned oddi wrth yr Haul.

Yn wahanol i Fercher, mae atmosffer Gwener yn amsugno'r gwres o'r Haul. Mae hyn yn golygu bod tymheredd arwyneb Gwener yn uwch nag ar Fercher.

Mae blwyddyn (un orbit o'r Haul) ar Wener yn 225 diwrnod Daear. Er hynny, mae diwrnod (un cylchdro o'r blaned) ar Wener yn 243 diwrnod Daear. Hi, felly sydd â'r diwrnod planedol hiraf yng Nghysawd yr Haul.

Planed ddaearol yw hi (wedi'i ffurfio'n bennaf o greigiau a/neu fetelau) ac mae ei maint a'i dwysedd yn debyg iawn i'r Ddaear.

Carbon deuocsid sy'n ffurfio 96% o atmosffer Gwener. Pe gallem gerdded ar Wener byddai dwysedd yr atmosffer yn golygu y byddai fel cerdded dan y dŵr ar y Ddaear.

Mae'r cymylau ar Wener wedi'u gwneud o asid sylffwrig.

Delwedd Magellan Probe NASA o Fenws

Teithiau

Y daith ofod lwyddiannus gyntaf i gasglu data am Wener oedd Mariner 2 a wnaeth hedfan heibio iddi yn 1962

Venera 7 (llong ofod o Rwsia) oedd y llong ofod gyntaf i lwyddo i lanio ar Wener yn 1970, a'r gyntaf felly i lanio ar blaned arall

Llwyddwyd i deithio i Wener fwy nag ugain o weithiau, er mai hedfan heibio gyda chymorth disgyrchiant ar deithiau i Fercher oedd rhai o'r teithiau. Dyma, felly'r blaned yng nghysawd yr Haul y mae ein llongau gofod yn ymweld amlaf â hi (ac eithrio'r Ddaear). Nid yw hynny'n llawer o syndod gan mai dyma'r blaned agosaf atom.

Cwestiynau

Defnyddiwch y wybodaeth uchod i ateb y cwestiynau hyn:

  1. Pam na fydd bodau dynol yn glanio ar Wener yn y dyfodol agos?
  2. Sut gallwn ni ddefnyddio Gwener fel enghraifft o baham y dylem osgoi cynyddu'r effaith tŷ gwydr ar y Ddaear?
  3. Pa mor hir yw 5 blwyddyn Daear mewn Diwrnodau Gwener?
  4. Beth fyddai'n rhaid ei ystyried wrth ddewis defnyddiau ar gyfer cerbyd ar Wener?

Atebion

Dyma ddolen fydd yn eich cysylltu â'r daflen atebion ar gyfer yr ymarfer hwn. Peidiwch â'i defnyddio tan ar ôl i chi roi cynnig ar yr holl weithgareddau


Yn ôl i Dudalen Gartref Ffiseg